Gyrfa Cymru

Gwybodaeth i rieni a Gofalwyr

Cyfarwyddyd Gyrfâu i ddisgyblion mewn addysg uwchradd

Er mwyn gallu cynghori pobl ifanc i wneud dewisiadau gyrfaol realistig, bydd
Cynghorydd Gyrfa Cymru yn gwneud defnydd o’r wybodaeth fydd ganddo/i am
bob disgybl. Bydd y wybodaeth yma yn dod o ddwy ffynhonnell, yr ysgol a’r
disgybl ei hun mewn cyfweliad neu trwy holiadur. Cyfyngir hyn i wybodaeth
sy’n berthnasol i gynlluniau eich mab neu eich merch am y dyfodol.

Delir â’r wybodaeth yma yn hollol gyfrinachol trwy’r
Ddeddf Amddiffyn Data.

Ni ellir defnyddio’r wybodaeth yma heb ganiatâd heblaw y bydd angen
i Gyrfa Cymru ryddhau’r data yn gyfreithiol.

Dyma enghreifftiau o wybodaeth a gofnodir: 

  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Materion iechyd allai effeithio ar gynlluniau i’r
    dyfodol
  • Anghenion cefnogaeth ychwanegol
  • Manylion cyswllt unrhyw berson neu asiantaethau eraill
    sy’n cefnogi eich mab / merch
  • Manylion unrhyw leoliad profiad gwaith a drefnir gan yr
    ysgol.

Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd rôl weithredol yng
nghynllun gyrfaol eu mab/merch ac edrychwn ymlaen at eich cyfarfod dros y
blynyddoedd nesaf mewn Nosweithiau Rhieni neu achlysuron eraill. Byddwch hefyd
yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyrfa Cymru ar adegau allweddol yng
nghyfnod eich mab/merch yn yr ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth ar y rôl mae Gyrfa Cymru yn ei chwarae wrth
gefnogi pobl ifanc a’u rhieni / gofalwyr yn ystod y broses addysg yrfaol,
ymwelwch â www.gyrfacymru.com neu Llinell Gymorth Cyngo Dysg a
Gyrfaoedd 0800 100 900 (Gyda ffôn symudol,galwch 029 2090
6801
)

Fodd bynnag, os oes gennych bryderon neu gwestiynau i’w gofyn, yna
cysylltwch ȃ:

Joyce M’Caw
Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gogledd Ddwyrain
Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen
Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
CH7 1DD

Tel: 01352 750456
Email: enquires@cwne.org

govs-quality-mark-bronze
Leaderaward 2023