| |
|
|
gurfa cymru Gwybodaeth i rieni a Gofalwyr |
|
Cyfarwyddyd Gyrfâu i ddisgyblion mewn addysg uwchradd - Er mwyn gallu cynghori pobl ifanc i wneud dewisiadau gyrfaol realistig, bydd Cynghorydd Gyrfa Cymru yn gwneud defnydd o’r wybodaeth fydd ganddo/i am bob disgybl. Bydd y wybodaeth yma yn dod o ddwy ffynhonnell, yr ysgol a’r disgybl ei hun mewn cyfweliad neu trwy holiadur. Cyfyngir hyn i wybodaeth sy’n berthnasol i gynlluniau eich mab neu eich merch am y dyfodol. Delir â’r wybodaeth yma yn hollol gyfrinachol trwy’r Ddeddf Amddiffyn Data. Dyma enghreifftiau o wybodaeth a gofnodir:
Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd rôl weithredol yng nghynllun gyrfaol eu mab/merch ac edrychwn ymlaen at eich cyfarfod dros y blynyddoedd nesaf mewn Nosweithiau Rhieni neu achlysuron eraill. Byddwch hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyrfa Cymru ar adegau allweddol yng nghyfnod eich mab/merch yn yr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth ar y rôl mae Gyrfa Cymru yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc a’u rhieni / gofalwyr yn ystod y broses addysg yrfaol, ymwelwch â www.gyrfacymru.com neu Llinell Gymorth Cyngo Dysg a Gyrfaoedd 0800 100 900 (Gyda ffôn symudol,galwch 029 2090 6801) Fodd bynnag, os oes gennych bryderon neu gwestiynau i’w gofyn, yna cysylltwch ȃ: Joyce M’Caw enquires@cwne.org |
|
| |
|